Yn dilyn cau trist Chwarae Teg, mae’n bleser gan GCMC gyhoeddi y bydd ein gwaith pwysig yn parhau yn ein cartref newydd Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (RhCM) Cymru.
Neges gan Fwrdd Ymddiriedolwyr GCMC:
“Diolch i Ymddiriedolwyr a staff RhCM Cymru a Chwarae Teg rydym yn falch o gadarnhau y bydd gwaith GCMC yn parhau o’i gartref newydd yn RhCM Cymru. Mae’n hanfodol yn ystod yr argyfwng costau byw hwn fod lleisiau menywod yn parhau i gael eu clywed, a bod gwariant cyhoeddus yn cael ei graffu i sicrhau ei fod yn hyrwyddo cydraddoldeb ac nad yw’n gwaethygu anghydraddoldeb systemig ymhellach. Mae GCMC wedi ymrwymo i ddarparu’r llais hwnnw.”
Cadwch mewn cysylltiad – ymunwch â’n rhestr bostio neu ewch i’n X/LinkedIn.