Positive Steps Taken, More Work To Be Done

 

Camau Cadarnhaol, mwy with I wneud

Ymateb RhCM Cymru a WWBG i Gyllideb Llywodraeth Cymru 2025/26

**Sgrolio am Saesneg**

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei Chyllideb derfynol ar gyfer 2025/26 drwy gytundeb gyda Jane Dodds AS, Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru. Rydym yn falch o weld bod cytundeb y gyllideb yn cymryd camau tuag at fynd i’r afael a materion cydraddoldeb rhywedd allweddol a godwyd gan Rwydwaith Cydraddoldeb Menywod Cymru (RhCM) a Grwp Cyllideb Menywod Cymru yn ein tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid, mewn gwelliant ar y Gyllideb ddrafft. Galwasom am gyllid ar gyfer yr estyniadau a addawyd i Dechrau’n Deg a chynnydd yn y gyfradd fesul awr ar gyfer darparwyr gofal plan fel rhan o’r Cynnig Gofal Plant, ac mae’n gadarnhaol  i weld £30 miliwn ychwanegol yn cael ei gynnwys yn y gyllideb terfynol.

Mae’r cyllid hwn yn gam tuag at sicrhau cynaliadwyedd ar gyfer darparwyr. Fodd bynnag, mae ymdreichion at gynaliadwyedd yn parhau i gael eu llesteirio gan system gymhleth a digyswllt, ac rydym yn siomedig nad oes unrhyw arian wedi ei ddyrannu i fynd i’r afael â’r materion systematig hyn.

Mae menywod yn fwy tebygol o ddibynnu ar wasanaethau cyhoeddus ac i weithio ynddynt, yn enwedig mamau sengl, menywod anabl, lleiafrifoedd ethnig a menywod hiliol. Ble caiff wasanaethau eu torri, mae’r baich hefyd yn fwy tebygol o ddisgyn arnynt fel darparwyr pan fetho popeth arall. Gyda hyn mewn golwg, galwasom am fuddsoddiad pellach mewn awdurdodau lleol a chroesawn y cynnydd a gyhoeddwyd mewn cyllid ar gyfer naw awdurdod – er na fydd hyn yn mynd yn ddigon pell i fynd i’r afael â ddiffygion cyllid sylweddol sy’n effeithio’n anghymesur ar fenywod yng Nghymru. Rydym hefyd yn croesawu’r cynnydd yn y cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol, piler allweddol arall o’n tystiolaeth i’r Pwyllgor Cyllid. Fodd bynnag rydym yn pryderu, heb wariant wedi’i dargedu i wella’r telerau ac amodau ar gyfer gweithlu’r sector sy’n fenywod yn bennaf, ddim ond plastr glynu yw hwn.

Mae gwreiddio cyllidebu ar sail rhywedd ym mhroses gyllidebol Cymru yn ffordd allweddol o osgoi effeithiau anghyfartal o’r fath hyn, ac i alluogi Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r rhwystrau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y mae menywod yng Nghymru yn parhau i’w hwynebu. Er bod sawl agwedd hanfodol o’n tystiolaeth yn cael eu hadlewyrchu yn y Gyllideb derfynol, mae llawer o waith i’w wneud o hyd er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb rhywedd wrth ei gwraidd. I gael rhagor o wybodaeth am gyllidebu ar sail rhywedd a’n tystiolaeth, gweler ein hymateb i’r ymgynghoriad fan hyn.


WEN Wales and WWBG respond to 2025/26 Welsh Government Budget

Welsh Government has now published its final 2025/26 Budget through an agreement with Jane Dodds MS, Leader of the Welsh Liberal Democrats. We are pleased to see that the budget agreement takes steps towards addressing key gender equality issues raised by Women’s Equality Network (WEN) Wales and Wales Women’s Budget Group in our evidence to the Finance Committee, in an improvement upon the draft Budget. We called for funding for the promised expansions of Flying Start and an increase in the hourly rate for childcare providers as part of the Childcare Offer, and it is positive to see an additional £30 million included in the final budget.

This funding is a step towards ensuring provider sustainability. However, attempts at sustainability continue to be hampered by a complex and disjointed system, and we are disappointed that no money has been allocated to address these systemic issues.

Women are more likely to rely on and work in public services, particularly single mothers, disabled women, ethnic minority and racialised women. Where services are cut, the burden is also more likely to fall upon them as providers of last resort. With this imbalance in mind, we called for further investment in local authorities and we welcome the announced increase in funding for nine authorities – though this will not go far enough to address significant funding shortfalls that disproportionately impact women in Wales. We also welcome the increase in funding for social care, another key pillar of our evidence to the Finance Committee. However, we are concerned that without targeted spending to improve the terms and conditions for the sector’s predominantly female workforce, this is just a sticking plaster.

Embedding gender budgeting into the Welsh budgetary process is a key way to avoid such unequal gendered impacts, and to enable Welsh Government to tackle the social, economic and political barriers that women in Wales continue to face. Whilst several vital aspects of our evidence are reflected in the final Budget, on this front there is still much work to be done in order to address gender inequality at its root. For more information on gender budgeting and our evidence, see our consultation response here.

Skip to content